11.4.25

Trin Cerrig, Rhan 4

Parhau â'r gyfres am gerrig y fro

I fynd yn ôl filynau o flynyddoedd cawn weld prawf o ddylanwad creu’r byd, ac olion y llosgfynyddoedd oedd yn rhan o dirwedd ein hardal, ar greigiau o’n hamgylch. Tydw i dim yn ddaearegwr, er gyda diddordeb mawr yn y pwnc, ac yn rhyfeddu wrth dod ar draws enghreifftiau o weddillion crombil ambell losgfynydd sy’n rhan o’n hanes. 

Rhyw dair blynedd, neu fwy yn ôl, ar un o ‘nheithiau niferus, dargynfyddais olion rhyfeddol effaith lafa ar greigiau heb fod ymhell â’r ffin rhwng Stiniog a bro fy mebyd, Penmachno. Rwy’n dal i ddod ar draws rhai gwahanol bob tro y byddaf yn ymweld â’r safle. Dyma ambell lun a dynnais ohonynt gyda ‘nghamera bychan, cyffredin. 


Wrth symud o ‘Stiniog i gyfeiriad y Migneint daw sawl enw carreg neu gerrig i’n sylw. 

Nid nepell o Bont yr Afon Gam a llyn Dubach y bont gwelir y bryncyn trawiadol, Carreg y Foelgron, (SH427745) gyda’r enw sy’n esbonio’i hun – y foel gron. 

Bryn sy’n boblogaidd iawn y dyddiau hyn gan ddarpar ddringwyr, ac yn hawdd iawn cyrraedd ei frig. Daw llawer o gerbydau gyda myfyrwyr o ysgolion a cholegau Lloegr yma, yn barod i ymarfer gyda’u cyfarpar dringo yn rheolaidd. 

Er nad yn gerrig na chreigiau, nac yn hynafol o gwbl, mae olion o ddarnau hirgrwn o goncrit i’w gweld hyd heddiw, ar ochr y ffordd yn y rhan hon o’r sir. Mae’r rhain yn dyst o’r rhwystrau a ddefnyddid gan awdurdodau milwrol Prydain yn erbyn ymosodiad arfaethedig tanciau Almaeneg adeg yr ail ryfel byd, a gelwir hwy yn ‘Gerrig Rhwystr’ (SH425746) gan rai.


Tro nesa: Mwy ar y Migneint

(Dolen at y bennod gynta')


8.4.25

Trin cerrig, rhan 3

Wrth edrych i gyfeiriad chwarel y Graig Ddu o fy nghartref yn Nhrem-y-Fron ar adegau arbennig, yn enwedig pan fo’r niwl yn disgyn o gyfeiriad y ddau Fanod, daw darn o graig i’r amlwg. 

A dyma’r garreg f’ysgogodd i wneud ymchwil i mewn i wahanol gerrig y fro, a’u cofnodi fel hyn, mewn ffaith. Byddem yn sylwi ar siâp unigryw y garreg hon, ac yn dotio arni pan fyddai’r niwlen fel cefndir naturiol iddi. Wrth wneud ymholiadau, daeth yr enw a roddwyd ar y garreg gan breswylwyr cynhenid ardal Bethania y dyddiau fu i’m clyw. Hyd y gwn, dim ond un wraig leol, oedd yn trigo, fel plentyn, yn Hafod Ruffydd yn y 1930au cynnar, sy’n cofio mai Carreg Buwch (SH458715) yw’r enw lleol ar y garreg hon. 


Y rheswm am hyn yw oherwydd y siâp arbennig sydd arni, sy’n ymdebygu i fuwch, yn enwedig ar gyfnodau o dywydd penodol. Wn i ddim o hanes Carreg Bustach, sy’n rhan o gadwyn y Moelwynion, na’i union leoliad; tybed a oes ffurf da byw ar honno?

Mae pawb yn yr ardal hon yn gyfarwydd â Charreg Defaid, (SH456703) sydd yn rhan o dirlun ar ben y banc ger yr hen Ysbyty Coffa, neu’r Ganolfan Iechyd erbyn hyn. Mae mwy nag un dehongliad o ystyr yr enw. Dywed rhai mai oherwydd bod defaid Cwm Bowydd yn casglu o’i chwmpas, yn enwedig ar dywydd mawr, ac eraill yn tueddu i weld siâp dafad yn y garreg. Gewch chi wneud eich penderfyniad eich hunain!

Gan ein bod ym mhen ucha’ Cwm Bowydd mi awn i lawr yr hen lwybr hynafol yn y cwm i weld carreg arall nad yw’n adnabyddus i bawb. Carreg ydi hon sydd eto wedi ei henwi gan ein hynafiaid oherwydd y twll hollol grwn sydd yn ei chanol. Cwpan y Rhufeiniaid (SH451697) ydi’r enw a roddwyd arni gan rywun amser maith yn ôl. Mae’n debyg i dwll a wnaed ynddi wrth i’n hynafiaid falu ceirch ac ati gydag erfyn ar gyfer bwydo’r teulu ganrifoedd yn ôl. Ond eto, mi all fod yn dwll a wnaed gan natur yn dilyn newidiadau yn naeareg y fro filoedd o flynyddoedd ynghynt. Ond pam yr enw ‘Cwpan y Rhufeiniaid’?  Ydi, mae ar ochr llwybr a ddefnyddwyd gan deithwyr ers tro byd, ond a fu cysylltiad â’r Rhufeiniaid ’dwn i ddim. Ond mae’n nodwedd arbennig yn y rhan hon o’r fro.

Mae sawl enghraifft o ‘Garreg Saethau’ i’w cael yng Nghymru, ac un neu ddwy ohonynt o fewn ein ffiniau ni yn ‘Stiniog. Dyma enw a roddir ar gerrig gyda marciau arnynt, heb fod yn annhebyg i ‘gerrig Ogam’, sydd yn cyfeirio at fath o ysgrifen a ddefnyddid, yn Iwerddon, yn bennaf, yn y dyddiau cyn i unrhyw wyddor ddod yn gyffredin,. Ceir rhai enghreifftiau o’r Ogam yng Nghymru.  Ond cerrig gyda marciau – llinellau syth o amrywiol faintioli – ar ritfaen, ran amlaf, yw’r ‘cerrig saethau’. Dyma sut y byddai ein hynafiaid yn hogi eu harfau, megis picellau, bwyelli a saethau yn yr Oesoedd cynnar. Gwn am ddwy safle lle mae cerrig tebyg i’w gweld yn y plwy’ hwn, - un mewn clawdd ar ochr y ffordd ger Cynfal Fawr, (SH406 702) (llun isod) a’r llall yn rhan o gamfa ar lwybr rhwng Bryn Tirion a Chae Canol, rhwng Manod a Chwm Teigl. (SH439721) 

- - - - - - - - -

Rhan 1

 

4.4.25

Gweld llun, clywed llais

Ym Mawrth 2012 cefais wahoddiad i gyfrannu i gyfres o ffilmau byr – 3 munud o hyd - oedd yn cael ei drefnu gan BBC Cymru. Cipolwg ar Gymru oedd yr enw a roddwyd ar y gyfres, ac erys y pytiau ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol hyd heddiw Roedd tîm recordio yn ymweld â chymunedau drwy’r wlad, ac yn ffilmio storïau personol gan unigolion oedd yn golygu rhywbeth iddynt. Rhoddwyd pob cymorth i bawb oedd yn cymryd rhan, ac felly i’r dwsin a ddewiswyd i gyfrannu i’r fenter yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog.

Cefais fodd i fyw wrth berfformio’r tri munud o stori oedd mor berthnasol i mi. Yn ddiweddarach, daeth cais ataf am yr hawl i ddangos y ffilm mewn arddangosfa yn un o bebyll yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. 

Oherwydd i’r pwnc dan sylw gennyf yn y tri munud o ffilm mor agos at fy nghalon, teimlais ei bod yn fraint gael rhannu’r teimladau hynny gydag eraill.Y testun a roddais i’r cynhyrchiad oedd Gweld llun, clywed llais, oedd yn golygu llawer i mi, a’r teulu. 

u Gweld llun (gwefan BBC Cymru) -Gobeithio y cewch chi yr un pleser yn gwylio’r darn a gefais i o’i ddarlledu. 

 

Arwr- Cerdd i 'Nhad



24.3.25

Trin Cerrig, rhan 2

Dim ond crafu’r wyneb wna’i gyda’r gyfres hon; dim ond cyfeirio at rai o’r cerrig rydw i’n gyfarwydd â hwy. 

Ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn golygu rhywbeth i mi. Gwn fod nifer ohonoch yn gwybod am enwau cerrig eraill, sydd wedi tynnu eich sylw’n bersonol.  Felly gofynaf ichi geisio rhoi manylion amdanynt ar gof a chadw, er mwyn cadw rhan bwysig o draddodiadau lleol yn fyw. Felly, dyma finna’ am gychwyn yr hyn sy’n wybyddus i mi: 

Cyfeirir at gerrig yn lleol mewn enwau adnabyddus ar greigiau megis Carreg Blaen-Llym, (SH442665) ger Llyn Stwlan, sy’n ddisgrifiad o’r pigyn main ar y copa, mae’n debyg. Eto, mae Carreg Flaenllym  uwchben Rhiwbryfdir, yn agos at Graig Nyth y Gigfran. 

Yna’r Garreg Ddu, (SH461702) craig sy’n gysgod ar ganol tre Blaenau, yn dywyll ei lliw, a’i natur. Roedd yn dywyllach nag arfer dros haf 2019, yn dilyn y tân niweidiol fu’n llosgi am gyfnod maith ym mis Gorffennaf 2019. 


 Mae Carreg Lwyd, (SH426731) yn Llan Ffestiniog yn enw ar fferm a’r mynydd gerllaw, a’r enw’n egluro’i hun. Gwelwn gyfeiriad at nifer o enwau lleol yn cynnwys y geiriau ‘Clogwyn’ a ‘Chraig’ neu ‘Maen’ hefyd. Ond ceiso canolbwyntio at y geiriau Carreg a Cherrig ydw’i am wneud am y tro.

 


Ym mhen uchaf Cwm Teigl mae Bwlch Carreg y Frân (SH449722) yn adnabyddus fel rhan o’r olygfa ar y daith o ‘Stiniog i gyfeiriad chwareli Bwlch Slatars a Chwt y Bugail, Blaen Cwm a Rhiw Bach. Ac ydi, mae’r frân a’i theulu’n  hoff iawn o loetran ar garreg, neu gerrig y bwlch.

Mewn ffaith, roedd y llwybr hwn yn bwysig iawn i deithwyr a phorthmyn gyda’u gwartheg neu foch dros flynyddoedd maith. Ar un adeg, dyma un llwybr uniongyrchol dros y ffin i Benmachno, ac ymlaen drwy Gapel Garmon i Lanrwst a’i marchnad. Yn ddiweddarach, dyma’r llwybr a addaswyd i gario llechi chwarel Rhiw Bach i gwrdd â chychod yng Nghei Cemlyn ar yr Afon Ddwyryd tua 1830, a throi Bwlch Carreg y Frân yn rhan bwysig o drafnidiaeth fasnachol y fro.
- - - - - 

Rhan 1

Rhan 3

 

14.3.25

Rhain yw fy Mryniau

Dyma fersiwn Gymraeg a gyfansoddais o These are my mountains gan y grŵp Gwyddelig, The McBrides, ar gyfer Côr y Pengwern, criw ohonom sy'n canu yn y dafarn honno ar nosweithau Sadwrn. Roger Kerry, cerddor o Harlech, aelod o'r côr answyddogol yw'r gitarydd. 

Erbyn hyn, mae'r gân wedi ei derbyn fel anthem gan y côr, ac yn boblogaidd iawn. Cymaint felly, fel y ceir fersiwn o'r criw nos Sadwrn yn ei chanu ar sianel YouTube Terry Fawr (gweler isod).

Mae ambell un o ffyddloniaid cantorion Y Pengwern wedi ein gadael bellach, gwaetha'r modd, ond erys yr atgofion amdanynt yn annwyl yn ein cof.

I wneud fy ffortiwn,
Fe grwydrais y byd,
Ond nawr rwy'n dychwelyd
At fy ffrindia' i gyd.
Hen hiraeth am Gymru
Fu'n gwasgu'n fy nghôl,
A'r holl rwy'n drysori
Â'm galwodd yn ôl.

Cytgan:
Can’s rhain yw fy mryniau
A dyma fy mro,
Hen lwybrau 'mhlentyndod
Ddychwelant i'r co';
Ni osodais fy ngwreiddia'
Mewn gwledydd mor bell,
Can’s rhain yw fy mryniau,
Y lle nad oes well.

Hen wynebau erstalwm
Ddaw eto yn fyw,
A lleisiau'r gorffennol
Ddaw n’ôl i fy nghlyw.
Ac O! rwy'n dychmygu
Am y croeso a gaf,
A hynny'n fy heniaith,
A'r cwmni mor braf.

(Cytgan)

(h) Vivian Parry Williams 2015.


 

 

7.3.25

Trin Cerrig

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o ddarnau ar gerrig nodedig lleol, yn seiliedig ar sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (tymor 2022-23) ac erthygl a ymddangosodd wedyn yn Rhamant Bro, cylchgrawn flynyddol y gymdeithas, yr unig un o'i bath yn y Gymraeg.

Mae enwau lleol wedi eu gosod ar bob agwedd, bron, o dirwedd ein cynefinoedd. Cawn enwau lleol ar lwybrau, caeau, ffyrdd, ffosydd a nentydd, coedwigoedd, bryniau, mynyddoedd ac ati, ac enwau’r mwyafrif wedi aros ers cyn cof. 

Ond cerrig sydd dan sylw yma: Cyfeirio at rai sydd i’w gweld yn y fro hon, ac mewn ardaloedd cyfagos ‘dwi am wneud yma. A dwi’n pwysleisio hyn – mae’n sicr bod pob un ohonoch yn gwybod am garreg, neu gerrig nad ydwi wedi cyfeirio atynt yma.

Ydi, mae’r ymadrodd ‘trin cerrig’ yn adnabyddus yn ardaloedd y chwareli. Ond roedd angen clamp o gŷn i hollti’r garreg hon ar lwybr Sarn Helen, rhwng Bryn Castell a Rhiw-bach !! 

 

Maen Hollt (SH443735)

Ond na, nid trafodaeth ar drin cerrig yn y chwareli yw’r canlynol, ond cyfle i ni gael golwg ar ambell garreg, neu gerrig diddorol o fewn y plwy’ hwn, ac ychydig y tu hwnt i’r ffiniau. Edrych ar ystyr enwau a roddwyd ar rai o’r cerrig, a cheisio dadansoddi’r rhesymau dros yr enwau unigryw hynny. 

Pwy fedyddiodd y cerrig gyda’r enwau gwreiddiol, a pha bryd oedd hynny, tybed? Mae ‘na stori ynghlwm â sawl carreg mewn safleoedd eraill ym mhob ardal bron, a’r chwedlau hynny wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd. Onid yw’n hanfodol ein bod ninnau’n trosglwyddo’r pytiau pwysig hyn o hanes ein cenedl i’n disgynyddion, a cheisio sicrhau i’n plant, a’u plant hwythau gario ‘mlaen â’r traddodiad?

Yn y llun nesa' mae’r Maen Trwsgl yn sefyll ar waelod rhan o’r Manod Mawr a elwir yn Glogwyn Candryll ger tyddyn Cae Canol Mawr. Enw ar rywbeth blêr – clumsy- ydi trwsgl, ac yn disgrifio’r garreg hon i’r dim. Mae’n debyg iddi gael ei styrbio, a’i chario lawr y mynydd gan rewlif yn ystod Oes yr Iâ, a’i gosod yn y fan hon hyd ddydd y farn. 

Maen Trwsgl (SH439721)

Fel pob carreg o’r fath, mae chwedleuon wedi gwreiddio, tyfu ac addasu o’i hamgylch dros y blynyddoedd. Un o’r rhai mwya’ adnabyddus ynglŷn â’r Maen Trwsgl yw’r un am y cawr o’r enw Trwsgl oedd yn trigo yn ardal. Roedd yn cerdded o amgylch y Manod Mawr un diwrnod pan deimlodd rhyw boen yn ei droed. Eisteddodd i lawr, a thynnu ei esgid, a darganfod y maen hwn ynddi. Gafaelodd yn y garreg enfawr a’i lluchio i lawr ochr y mynydd, a rowliodd y maen hyd at y safle y gwelir hi heddiw.  

Mae chwedl debyg i hon yn perthyn i gawr arall o gyffiniau Penmachno, a wnaeth union yr un fath i garreg yn ei esgid, a’i lluchio i lawr llethr nes iddi syrthio i’r afon Gonwy islaw Rhaeadr y Greiglwyd (Conwy Falls). Ac yno mae Maen y Graienyn yn gorwedd hyd heddiw.

Mae enw ambell garreg, neu gerrig yn ddigon hawdd i’w ddadansoddi, megis lliw, lleoliad, neu siâp y maen, neu graig. Ond yr hyn sy’n ddifyr yw ceisio mynd i’r afael â rhesymau’n hynafiaid fedyddio rhai cerrig gydag enwau sydd bellach yn anghofiedig. Gwyddom i’r hen dderwyddon ddyddiau gynt addoli eu duwiau ger ambell faen, neu gylch o gerrig yn sefyll yn gadarn, oedd yn rhan o olygfa ambell safle. Pa grefydd oedd y rhain yn ei ddilyn? 

Daeth diwedd ar addoli yn y ffurf honno wedi dyfodiad y Rhufeiniad, gydag ambell eithriad, ond mae’r meini a’r cylchoedd yn dal i sefyll mewn sawl man, fel prawf o’r ffaith fod crefydd, ac addoli duwiau gwahanol gan ein hynafiaid wedi bodoli mewn nifer o safleoedd yng ngogledd Cymru y dyddiau fu.

[Y tro nesa... Y Garreg Lwyd; Carreg y Frân, a mwy]

 

 

1.3.25

Giaffar

 

Cerdd a gyfansoddais am y diweddar Goronwy Owen Dafis, neu ‘Giaffar’ar lafar, a fu’n gydweithiwr a chyfaill arbennig i mi am nifer o flynyddoedd. Traddodais ambell sgwrs/darlith am ei gymeriad, a’r hwyl a gawsom yn ei gwmni, yn y gwaith ac am ei daith drwy’r byd ‘ma. Yn un poblogaidd iawn, ac yn llawn direidi. 

Torwyd y mowld pan gollwyd Giaffar ym Medi 1998. Ni welir neb tebyg iddo eto ar strydoedd y dre’ hon byth eto, gwaetha’r modd.     

 

 

        Giaffar

Goronwy Owain Dafis oedd
Y 'Giaffar'; enw roed ar goedd
Ar hen gymeriad difyr, llon,
A fu yn rhan o'r ardal hon.
Er nad yn selog ar y Sul,
Fe gadwai at y llwybr cul,
Â'i eirau doeth, a'i gadarn farn
Am bethau'r byd; yn Gymro' i'r carn.

Ei wên ddireidus roddodd stamp
Ar bopeth wnaeth, a dyna'i gamp;
Wrth ddweud rhyw berl, a chymryd drag
O'r stwmp o Rizla a'r baco shag,
Caed holl ffraethineb diawl o gês
A fyddai heddiw'n fyd o lês
I wlad mor lwyd; heb rai fel hwn,
Mae'n llawer tlotach lle, mi wn.

Rhyw sgwrs a hwyl, a thynnu coes
Oedd pleser Giaff ar hyd ei oes.
Ei ddywediada' doniol lu
Oedd ran o'r ieithwedd ddyddiau fu.
Heb un uchelgais yn y byd,
Ond i ddifyrru'i ffrindia'i gyd,
A mynd am beint, a'i gêm o 'Nap'
Yng nghwmni'r criw yn lownj y Tap

Ei ymadroddion ffraeth a phowld
Ddiflannodd, wedi torri'r mowld;
Ni chawn y straeon fesul llath,
Ac ni fydd Blaena' byth 'r'un fath.
Wrth gofio'n ôl, rhaid cyfri'r gost
O golli rhai fel G'ronwy Post.
Ac ni ddaw neb i gymryd lle

Rhen Giaff a'i fath ar lwybrau'r dre'.