22.8.25

Cerddi Cydwybod - Breuddwyd

'R'ôl croesi rhiniog y ddirgel ffîn 
i esmwythder cwsg, a'i hudol rin,

y gwelais yn glir hen elynion yn cwrdd,
pob un yn gyfeillion cytûn rownd y bwrdd;

arhosodd y darlun yn gyfaredd i gyd
nes dod y di-huno i'm 'styrbio, a'i fryd

i agor fy llygaid, i newid y llun,
rhag ofn i'r gwirionedd geisio dangos ei hun.


19.8.25

Cerddi Cydwybod -Cymod

Dau ŵr yn cydymffurfio,
Dwy law yn cydio'n dynn,
Ac arwydd o'u cytundeb
I lawr ar ddu a gwyn.

Braf ydoedd gweld tystiolaeth
Ymrwymiad rhwng dau ddyn
Yn 'nabod gwerth daioni
Dwy ochr yn gytûn.

Ond rhaid i hen elynion
Cyn mentro i gyd-fyw
Wneud ymdrech deg i ddysgu
Y wers o rannu Duw.

17.8.25

Cerddi Cydwybod -Treftadaeth

Mae'n hen arferiad wel'di
i roi ryw bwt i lawr,
cofnodion am ein llinach
mewn 'sgrifen ar y clawr;
ryw hen ddefosiwn fu yn rhan
o'n tylwyth yma yn y Llan.

Pob gair yn ddolen gyswllt
o'r gadwyn ar ei hyd,
y rhai fu ar 'r'un llwybrau
â'n cylchdaith yn y byd;
pob un ohonynt, weli di,
yn rhan ohonot ti a fi.

A gwel tu fewn i gloriau'r
'rhen Feibl yma, Siôn,
mae yno stôr o hanes 
hynafol, 'n'ôl y sôn,
sy'n mynd ymhell tu hwnt i'r plwy', 
a'r teulu ynddo'n llawer mwy.

15.8.25

Cerddi Cydwybod -Y Tywydd

Ddoe, wedi'r ddrycin,
Y tywydd, wrth gwrs,
Wrth gyfarch, fel arfer,
Oedd testun ein sgwrs;
Mewn porfa faethlon
Cwyno a wnawn
Am leithder y bore
A glaw y prynhawn.

Heddiw, newyddion
O'r Affrica ddaw
Am filoedd yn marw
O ddiffyg y glaw,
Yng nghanol sychder 
Eu crasdir noeth,
Dan wres ddi-dostur
Yr heulwen boeth.

Fory, fel arfer,
Y tywydd, wrth gwrs,
A diffyg yr heulwen
Fydd testun ein sgwrs.

6.8.25

Cerddi Cydwybod -Amser

Wrth gilio ein heddiw
i’r machlud gerllaw,
a ddoe’n rhan o hanes
yfory a ddaw.

Daw ‘n’ôl yn amserol
fel troad y rhod,
a’r cylch yn ailgychwyn
bob tro, ers ein bod.


3.8.25

Cerddi Cydwybod -Ffiniau

 Drwy reddf fy etifeddiaeth
Nid yw yn beth mor hawdd
I gyfarch fy nghymydog
Mewn Saesneg, dros y clawdd.

Mae mwy o rwystrau yma
Na sgwrs y geiriau mân
Yn ffiniau anweledig
I'n cadw ar wahan.



1.8.25

Cerddi Cydwybod -Wedi'r Llanw

Mae'r olion yma'n amlwg,
Fe ddaeth o don i don,
Gan gyrraedd y penllanw 
Nes torri'r dorlan hon;
A'r tonnau hynny, yn y man 
A ddaeth yn llif dros erwau'r Llan.

Waeth heb â chodi cloddiau
Na mur i'w gadw draw,
'Does dim all ein hamddiffyn,
Rhaid derbyn beth a ddaw;
Y baw a'r broc ddaeth gyda'r lli'
Sy'n awr yn pydru'n glannau ni.

Ac wedi'r holl ganrifoedd,
Ein tirwedd sydd ar drai,
A neb i gau'r llifddorau,
Er gwybod lle mae'r bai;
Y llanw estron - dyna yw -
Sy'n boddi'n hiaith a'n ffordd o fyw.