19.10.25

Cerddi Cydwybod- Darlun

Edmygwn waith rhyw artist mawr,
a phawb oedd yn gytûn
fod holl rinweddau meistri'r grefft
yn gelfydd yn y llun.

Y dydd o'r blaen, fe brofais wyrth
brydferthwch toriad gwawr,
a sylwais na fu darlun gwell
na gwaith y Crëwr mawr.