1.8.25

Cerddi Cydwybod -Wedi'r Llanw

Mae'r olion yma'n amlwg,
Fe ddaeth o don i don,
Gan gyrraedd y penllanw 
Nes torri'r dorlan hon;
A'r tonnau hynny, yn y man 
A ddaeth yn llif dros erwau'r Llan.

Waeth heb â chodi cloddiau
Na mur i'w gadw draw,
'Does dim all ein hamddiffyn,
Rhaid derbyn beth a ddaw;
Y baw a'r broc ddaeth gyda'r lli'
Sy'n awr yn pydru'n glannau ni.

Ac wedi'r holl ganrifoedd,
Ein tirwedd sydd ar drai,
A neb i gau'r llifddorau,
Er gwybod lle mae'r bai;
Y llanw estron - dyna yw -
Sy'n boddi'n hiaith a'n ffordd o fyw.