Wedi ystyried fy hun yn greadur cydwybodol, egwyddorol ar hyd f’oes, cyfansoddais nifer o gerddi a fyddai’n gweddu i un gyda meddylfryd o’r fath. Roedd yr agwedd yma o fy natur yn tueddu i ‘ngadael yn drist a siomedig am y diffygion di-hid a berthynai i nifer o 'nghyfoedion.
Sawl tro y clywais gyfaill, neu gydnabod yn cwyno am y newid a ddaeth gerbron ein cynefinoedd Cymraeg dros y cyfnod diweddar, ac yn cau llygaid i’r problemau cyfoes. Cyfeiriaf at ambell un o’r rhain yn y cerddi, ac am eu difaterwch. Ia, dadrithiad ydi’r cyflwr y bum, ac yr wyf yn diodde’ ohono, yn sicr.
Daw’r teimlad i’r wyneb yn glir yng ngeiriau'r gân hon:
Gwladgarwyr?... Diwedd y gân...
O lwyfannau trwy Gymru fe glywsom sawl llais
Yn areithio am oriau am orthrwm y Sais,
Mor argyhoeddedig, gwladgarwyr o fri
A'u traed ar y ddaear, dywedwyd i mi.
Arloeswyr mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith;
Rhai blaenllaw fel stiwardiaid Undebau Gwaith,
Arweinwyr cydwybodol, a'u dadlau mor groch,
Yn driw dros y werin a'r Faner Goch.
Sosialwyr adain-chwith, y rhai o'r iawn ryw,
(Mewn difri', oes 'na rywfaint yn dal yn fyw?)
Yn wir, erbyn heddiw nid hawdd dod ar draws
Chwyldroadwyr gwerinol, gwladgarol eu naws.
Ond, pa iws bod yn Farcsydd di-wyro, a'i fryd
O newid cymdeithas faterol y byd;
Annoeth yw rhagfarnu'r Arglwyddi ynte,
A chymaint mor barod i gymryd eu lle?
Fe gofiaf aelodau yn rhengoedd y Blaid,
 delfrydau mor deyrngar ers amser fy nhaid,
Ymgyrchwyr am ryddid a hawliau i'n gwlad -
'Pob peth yn Gymraeg', ac am weld ei pharhad.
Mor barod i herio y sustem annheg,
I agor pob llygad, i roi taw ar bob ceg
A ddirmygai ymdrechion y Cymry a'u hil;
Merthyron cyfiawnder, yr aberthwyr fil.
Yn Gymry twymgalon, a'u pwyslais ar ach,
Llawn balchder o'u llinach, ag egwyddor mor iach;
Disodlwyd cyfenwau o darddiad iaith fain
Gan yr 'ap', mor urddasol, Gymreigaidd ei sain.
I ble aeth 'rymdeimlad o berthyn trwy waed,
I ble aeth y balchder am hunaniaeth a gaed
Wrth ymgyrchu a chanu am ennill tir,
Ac am yr holl freintiau a ddeuai cyn hir?
Nid myfi, nid myfi a drodd fy nghefn
Ar egwyddor sylfaenol i newid y drefn;
Erbyn hyn, natur ddynol hunanol a roes
Y gwirionedd am ragrith anfoesol ein hoes.
Ti, fab i'r gwerinwr na chodai ei gap
I'r crachach; ie, thi, a dy 'ap',
Pa bryd y doi dithau i 'sgidiau dy dad,
Pa bryd gawn dy gwmni yn ôl yn dy wlad?
A ddoi di, was ffyddlon y meistri pell
Rhyw ddydd at dy goel, a chydnabod dy well,
O dy gadair gyfryngol yn y BBC
Yn ôl at dy wreiddiau, ble ma 'd'angen di?
Wnei dithau, wladweinydd, a d'uchelgais fawr,
Droi atom drachefn â'th draed ar y llawr?
Tydi, a fu unwaith mor falch o dy dras,
Sy'n lordio coridorau'r Arglwyddi cas.
A thi, fu'n ymgyrchwr dros hawliau'r tlawd,
Mor uchel dy gwymp pan newidiodd dy ffawd;
Fe'th prynwyd, fel llawer o 'sosialwyr' fel ti
 llo aur y frenhiniaeth - yr O.B.E.
Estynnwch eich dwylo i dderbyn eich clod,
Moesgrymwch a llyfwch, mae 'chwanneg i ddod
O ffug freintiau Prydeinig; cewch grafu tîn
Draw ym Muckingham Palas, yng nghwmni eich cwîn.