Sgetsys a sgwennais ar gyfer Sgript Slam Radio Cymru yn 2016
Iechyd Da
Cymeriadau: Dwy wraig ganol oed, Meri a Gwen. Golygfa: Tŷ Meri.
Gwen: (Yn ochneidio) Dwi’n siŵr fod gan Alun ‘cw broblam yfad ‘sti.
Meri: Pam ti’n deud hyna?
Gwen: Mi ofnais iddo fo dostio tamad o fara imi ddoe…
Meri: Ia?
Gwen: A dyma fo’n mynd i’r cwpwr’, ac estyn potal o wisgi a thywallt gwydriad mawr iddo fo’i hun…
Meri: Ia, be wedyn?
Gwen: Cododd y gwydyr, a deud Iechyd da i’r bara ‘ma, a thywallt y wisgi lawr ‘i wddw…
----------------------------------------------------------------------------------
Cacen
Golygfa: Parti penblwydd 70 taid mewn tŷ yng nghefn gwlad. Cacen gyda chanhwyllau’n olau ar y bwrdd, yn barod i gael eu chwythu allan. Y tŷ’n llawn o westeion i’r parti. Cymeriadau: Taid ac Osian, ei ŵyr.
Taid: Arglwy’, dwi’m yn ‘nabod neb yma bron.
Osian: Ffrindia mam a dad ydi lot ohonyn nhw, ma nhw’n ddiarth i mi hefyd.
Taid: Ew, Cacan neis iawn, fedrai ddim aros i ga’l tamad ohoni.
Osian: ‘Da chi’n barod i chw’thu’r c’nwylla taid?
Taid: Ydw, os ga’i wynt o rwla.
Osian: Rhoswch am funud taid, ma’r gola ‘mlaen.
Taid: (Yn gweiddi o’i gadair) Neith rhywun ei diffodd nhw ‘ta.
(Y golau’n diffodd)
Osian: Diolch yn fawr Mrs…(yn holi taid) pwy ydi hona ‘dwch?
Taid: Rhyw ddynas o dre’, Ryshan, dwi’n meddwl, Dora Golaoff ydi’i henw hi…
----------------------------------------------------------------------------------