23.2.25

Diolch Simon!

Rydym yn gyfarwydd ers tro bellach o’r cyfaill Simon Chandler, yr hwn sy’n canmol ein hardal fel y fro a’i ysbrydolodd i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Gymaint felly nes iddo siarad ein hiaith yn rhugl, ac yn ymfalchïo yn ei daith o fod yn Gymro i’r carn. Ond nid dyna ddiwedd ar ei wyrthiau! 

Erbyn hyn, mae wedi meistrioli’r gamp o gynganeddu, ac yn feistr ar y math o farddoniaeth sy’n drech ar nifer o feirdd! Bu iddo gael ei dderbyn fel aelod o orsedd y beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhondda y llynedd, braint arbennig, ond haeddiannol iawn iddo. 

Simon a finna yn Rali Annibyniaeth Wrecsam, Gorffennaf 2022

Mae eisoes wedi cyfansoddi nofel yn y Gymraeg, Llygad Dieithryn a gyhoeddwyd yn Awst 2023, ac wedi gwerthu’n dda iawn. Yn ei gyflwyniad o’r nofel, roeddwn i, a Beryl yn cael canmoliaeth ganddo oherwydd iddo gael ei ysbrydoli gennym. Meddai:

Diolch i Vivian Parry Williams am ei ysbrydoliaeth a’i gyngor doeth, ac iddo fe a’i annwyl wraig, Beryl, am fenthyca’u ystafell wydr i mi ar gyfer golygfa fwyaf tyngedfennol y nofel.

Da yw cael dweud y bydd nofel newydd o’i law, Hiraeth Neifion, yn cael ei chyhoeddi ar y 12fed o Fehefin eleni. Bydd lansiad o’r gyfrol yn cael ei gynnal yn siop lyfrau Yr Hen Bost yn Stiniog, ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Felly, gyfeillion, amdani os am fod yn berchen ar ail gyfrol ein cyfaill, y Cymro gwych, Simon!

Pleser o’r mwyaf oedd cael y cyfle i wneud cymwynas i gyfaill mor annwyl a hawddgar â Simon, ac rwyf yn hynod falch o lwyddiannau’r Cymro arbennig hwn.

Dyma englyn a gyfansoddodd Simon i mi yn ystod y cyfnod cynnar o’n cyfeillgarwch, a mawr yw fy niolch iddo amdano, ac am ei gyfeilgarwch.


       Vivian Parry Williams

Ậ’i enaid draw yn Stiniog a’i hanes,
     mae’n uno fel marchog
disglair, pob gair fel y gog:
didwyll â’i ardd odidog.




17.2.25

Arwr

Ni fyddai byth yn trafod
am gwrs y byd, a'i hynt,
am angen, nac am gyni
a thlodi dyddiau gynt;
ond dysgais am ei werthoedd o,
heb gael, er eisiau lawer tro.

Fe wyddai am drallodion
ac am greulondeb ffawd
a ddaeth gerbron ei dylwyth,
a'i gyfyngderau tlawd;
er ei golledion lawer dydd
ni surodd ddim, na cholli ffydd.

Sut na fu iddo ddigio,
a pham na throdd ei gefn
ar anghyfiawnder bywyd
ac ar flinderau'r drefn?
Ymysg eilunod, ddau neu dri,
hwn oedd yn arwr mawr i mi.

Ac er fy holl gwestiynu,
ni chefais ateb 'chwaith;
o, na chawn eto gyfle
i'w g’warfod ar y daith;
fe ro'wn y byd i gydio'n dynn
yn llaw fy nhad i ofyn hyn.

- - - - -

Llun o chwarelwyr Rhiwbach, a dynnwyd ym 1938.

Ymddangosodd yn y papur bro yn yr 80au, un o ychydig iawn o luniau a welais o 'nhad William Hugh Williams (saeth).

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, mae Moss Wyatt, tad Beryl fy ngwraig ynddo hefyd (smotyn). Doedd yr un ohonom ni'n ymwybodol fod y ddau wedi bod yn gyd-weithwyr; fy nhad yn cerdded yn ddyddiol i'w waith o Benmachno, a Moss yn cerdded o'r Blaenau. Dyna ymroddiad!




Dathlu

Sgetsys a sgwennais ar gyfer Sgript Slam Radio Cymru yn 2016

Iechyd Da

Cymeriadau: Dwy wraig ganol oed, Meri a Gwen.    Golygfa: Tŷ Meri.

Gwen: (Yn ochneidio) Dwi’n siŵr fod gan Alun ‘cw broblam yfad ‘sti.

Meri: Pam ti’n deud hyna?

Gwen: Mi ofnais iddo fo dostio tamad o fara imi ddoe…

Meri: Ia?

Gwen: A dyma fo’n mynd i’r cwpwr’, ac estyn potal o wisgi a thywallt gwydriad mawr iddo fo’i hun…

Meri: Ia, be wedyn?

Gwen: Cododd y gwydyr, a deud Iechyd da i’r bara ‘ma, a thywallt y wisgi lawr ‘i wddw…

       ----------------------------------------------------------------------------------
 

Cacen

Golygfa:  Parti penblwydd 70 taid mewn tŷ yng nghefn gwlad. Cacen gyda chanhwyllau’n olau ar y bwrdd, yn barod i gael eu chwythu allan. Y tŷ’n llawn o westeion i’r parti.   Cymeriadau: Taid ac Osian, ei ŵyr.

Taid: Arglwy’, dwi’m yn ‘nabod neb yma bron.

Osian: Ffrindia mam a dad ydi lot ohonyn nhw, ma nhw’n ddiarth i mi hefyd.

Taid: Ew, Cacan neis iawn, fedrai ddim aros i ga’l tamad ohoni.

Osian: ‘Da chi’n barod i chw’thu’r c’nwylla taid?

Taid: Ydw, os ga’i wynt o rwla.

Osian: Rhoswch am funud taid, ma’r gola ‘mlaen.

Taid: (Yn gweiddi o’i gadair) Neith rhywun ei diffodd nhw ‘ta.

(Y golau’n diffodd)

Osian: Diolch yn fawr Mrs…(yn holi taid)  pwy ydi hona ‘dwch?

Taid: Rhyw ddynas o dre’, Ryshan, dwi’n meddwl, Dora Golaoff ydi’i henw hi…



       ----------------------------------------------------------------------------------


4.2.25

Gofid a Gobaith

O, dyro dy arweiniad
i bobl drwy’r holl fyd,
mewn cyfnod o argyfwng,
i’n gwarchod ni i gyd;
mae d’angen Di, mae’n amser gwyw,
a byw mewn gobaith wnawn, ein Duw.

Trwy gredu yn ein gweddi,
a thrwy dy gariad Di,
daw atom ffydd nefolaidd
i roddi nerth i ni;
gweddïo am yr hawl i fyw,
a byw mewn gobaith wnawn, ein Duw.

Er disgwyl gwyrth yn ddyddiol
i brofi newydd wawr,
bydd hyn drwy gred a chariad
dy ddawn, waredwr mawr,
cawn weld achubiaeth dynol ryw,
a byw mewn gobaith wnawn, ein Duw.

- - - -

Emyn a ysgrifennais ar gyfer cystadleuaeth i raglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn ystod cyfnod Covid.