27.6.25

Cerddi Cydwybod -Iaith

Un arall o 'ngherddi sy'n adlewyrchu fy nadrithiad yn y drefn ieithyddol cefn-gwlad Cymru erbyn hyn. Wrth i ystadegau ddangos y dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau, anodd yw bod yn galonogol. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Gobeithio wir.

 

Carreg Cantiori (nid yr un wreiddiol) ger safle gwaith dẃr Llyn Morwynion
Pan oeddwn i yn blentyn
Ro'wn i o'r farn o hyd
Mai dim ond iaith fy aelwyd
A glywid trwy'r holl fyd.

Ond syndod oedd darganfod
Wrth fynd o gam i gam,
Fod gennyf fwy i'w ddysgu
Na iaith fy nhad a mam.

Rwy'f innau erbyn heddiw
Yn ymfalchïo'n iawn
Wrth siarad â nghymydog
Â'i eirfa ef yn llawn.

Ond, anodd yn fy libart,
Yw ceisio parchu'r dyn
Heb awydd ganddo'i siarad 
Ond uniaith - iaith ei hun.


4.6.25

Cerddi Cydwybod -Brwydr

Cerdd ddychmygol a gyfansoddais wrth weld pobl ddiarth yn symud i mewn i'm bro, a'r newid a fu yn y gymuned. 

Ni fu 'r'un cweryl rhyngom,
Na geiriau cas ychwaith,
Ac yntau yn gymydog
I mi ers amser maith;
Ond rhywsut, trawsnewidiwyd bro
Oherwydd ei ddyfodiad o.

Er estyn llaw o gymod
I'm c'warfod dros y bwrdd,
Encilio wnaiff, a gwrthod
Ddod hanner ffordd i'm cwrdd;
Ac yntau, estron, er y gwa'dd
Heb fath o erfyn, sydd yn lladd.

Ac er milwrio'n erbyn,
Mae pethau'n mynd yn waeth,
Nid hawdd i ni wrthsefyll,
Â'n dwylo ni yn gaeth;
Er ceisio brwydro, colled yw, 
Difroda hwn hen ffordd o fyw.

Llun gan Alan Hughes, trwy drwydded Comin Creadigol 2.0


2.6.25

Cerddi Cydwybod -Cysur Cymdogaeth

Cerdd sgwennais adeg gofid Covid, Hydref 2020

Ffordd o fyw a newidiodd yn sydyn,
mae’r effaith i’w weld ar bob stryd,
y gelyn a ddaeth yn ddi-rybudd,
i’n dychryn, ac i newid ein byd.

R’wyn colli cyfarfod ’rhen gwmni,
a ffrindiau dros sgwrs yn y dre’,
gan obeithio ’daw’r haul unwaith eto 
i godi’r hen hwyliau ynte.

Mae’n chwith am yr hyn oedd yn arfer
mewn lle sydd mor annwyl â hwn,
’does unlle’n y byd fel ein hardal
am wir gyfeillgarwch, mi wn.

A diolchaf bob dydd am gymdogaeth
a chymdeithas arbennig ein bro;
mae hynny yn eli i’r galon,
i f’anwesu yn llon, fel bob tro.

A phan ddaw yr haul dros ein bryniau   
i adfer yr hyn oedd yn bod, 
cawn ddiolch i Dduw am ein gwarchod,
a gweddïo am yr hyn sydd i ddod.

Cwm Teigl yn haul yr hwyr. Treuliais sawl awr yn y cynefin arbennig hwn.