Carreg arall a ddiflannodd o olwg dyn yw’r garreg a osodwyd ar y llethrau ar y mynydd ger chwarel Rhiw-bach, i gofio am Robert Roberts, gwas 32 oed Tyddyn Bychan, Cwm Penmachno.
Collodd Robert ei fywyd yn Ionawr 1895 wrth iddo ef a chyfaill iddo, Evan Davies, geisio croesi’r mynydd o’r Blaenau i’r Cwm mewn storm fawr o eira. Roedd y ddau wedi cychwyn tua hanner awr wedi deg o ‘Stiniog, ac yn dilyn y dramffordd rhwng Cwt-y-bugail a Rhiw-bach.
Oherwydd y tywydd dychrynllyd, roedd Evan am droi’n ôl i gyfeiriad lle o’r enw Tŷ Newydd y Mynydd, gyda theulu’n byw ynddo, yn uchel uwchben chwarel Maenofferen. Ond oherwydd bod Robert Roberts ar ddyletswydd yn gynnar y bore canlynol, i fynd ar orchwyl gyda’i drol i Lanrwst, rhaid oedd cario ‘mlaen. Bu i’r ddau gysgodi am gyfnod mewn adeilad yng Nghwt-y-bugail, a thua hanner nos, penderfynwyd cario ‘mlaen tua’r Cwm.
Ond gwaethygodd y tywydd, ac ymhen dim, roeddynt wedi colli cysylltiad â’i gilydd. Er i Evan weiddi am ei gyfaill, ni chafodd ateb. Bu wrthi tan chwech y bore, yn y tywyllwch yn chwilio am Robert, heb lwyddiant. Brwydrodd drwy’r storm fawr nes dod at y Cwm, a chanfod nad oedd y cyfaill wedi cyrraedd ei gartre’. Trefnwyd i griw o ddynion y pentre’ ddringo i fyny i gyfeiriad Rhiw-bach, i geisio dod o hyd i was Tyddyn Bach, ond yn ofer, ac wedi peth amser, rhaid oedd troi’n ôl i’r Cwm.
Dywedir mai Mrs Edwards, gwraig tyddyn Glan y Gors, neu ‘Barics Cae’ ar lafar, ym mhentre Rhiw-bach a sylwodd ar gorff Robert Roberts, yn ei ddillad tywyll, yn gorwedd yng nghanol yr eira trwchus yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, wrth edrych tua’r llethrau o ffenest’ ei chartref. (Mrs Edwards yn nain i‘r ddiweddar Deborah, gwraig Austin Lewis, a’r diweddar Elwyn, gŵr Bet Roberts, gyda llaw).
Fe elwid tywydd garw o stormydd eira yn ‘Heth Bob Roberts’ gan weithwyr y chwareli cyfagos am flynyddoedd i gofio am y digwyddiad trist. Gosododd ei gyfeillion garreg coffa fechan mewn cylch o gwarts gwyn, gydag englyn o waith Dafydd Ddu Eryri arni, er cof am Robert Roberts, ar yr union lecyn y darganfuwyd ei gorff. Yn anffodus, yn ystod y 1960au cynnar, planwyd erwau o goed conifferaidd dros y llethrau hynny. Er i mi geisio chwilio amdani sawl gwaith dros y blynyddoedd, mae’r coed trwchus wedi gorchuddio pob arwydd o leoliad safle’r garreg. Ond, fel rhyw achubiaeth, mae gen i gopi o lun un o’r Cwm, y diweddar Dei Les Edwards, yn sefyll uwchben y garreg.
Llun yw hwn a ymddangosodd yn y Cambrian News, tua dechrau’r 1960au, a adroddai hanes y digwyddiad trist. Mae Robert Roberts wedi’i gladdu ym mynwent yr eglwys ym Mhenmachno, gyda llaw.