Casgliad o gerddi anfonais i Steddfod Mynytho dro'n ôl, dan ffugenw 'Hen Rybelwr'
Coleg Min Nos
Pan oedd llethrau'r Llan yn gomin o gân,
a chornel y Ring yn un dras o greigwyr,
roedd dysg 'rhen ddyddiau'r caban yn adlais
o ffraethineb y bonc.
I ni â'n clustiau astud, roedd yno wynfyd;
glaslanciau'r pumdegau pell,
â'u bryd ar sathru'r drefn
a blasu'r dŵr aflan,
yma'n cowtowio i'r cymêrs
wrth inni fwrw ati i lowcio'r geiriau,
heb reg yn 'r'un ynganiad.
Ninnau'n myfyrio yn haelioni'r hwyl,
ar lwyfan yr hen ddireidi,
a Dei Wmffra'n diwtor arnom,
yn chwarae i'r gynulleidfa,
a'i draethu’n taro deuddeg.
Drag ar yr Wdbein, ac yna'r glec, ...chwerthin,
a'r dosbarth yn ei ddybla'
yn heulwen haf erstalwm.
Yn ddisymwth...
'r'ôl galw'r corn gwaith i'r gro,
disgynnodd y cyrten yn anterth y wers,
i ganslo'r anterliwtiau.
Heddiw,
yng ngweddillion y weirglodd,
mae'r hen le mewn trwmgwsg ers tro,
a chreithiau'r alltudiaeth yn aros
fel hen hollt ar lethr wag.
Dychmygaf, ym merddwr y cof,
ei gweld yn fintai wargam
yn igam-ogamu rhwng pyliau o beswch
i gyrraedd y fargen ddima';
Wil Lloyd, a'i drwsus ffustion liw ffurat
yn arwain y frigâd
yn araf a phwyllog i derfyn y daith.
Nid hawdd derbyn fy nieithrwch bellach,
rhwng ffiniau'r hen adnabod;
wylaf am yr hyn a ddaeth, am lwfdra ffawd,
ac am fachlud y pelydrau pell.
Fy Hen Gymdogaeth
Erstalwm, a'r lle yn gnawd o gwmwd,
ar 'sgerbwd hen gynefin,
bu yma fwrlwm
o fyw am yfory.
Lle bu her yr addewidion
yn llenwi'r oriau
mewn lle nad oedd darfod yn bod.
Pob hewl a'i hafan o hwyl,
pob cornel yn helfa
i rannu'r wên
o straeon cyn noswylio.
Erstalwm, ar erwau fytholwyrdd
roedd yno ardd Eden
o ddiniweidrwydd
am bethau'r byd.
Drannoeth y dihuno
a chodi gorchudd yr ystrydeb
am ddyfnder gwreiddiau,
y bu'r wers am 'sgaru had,
ac am y medi aflan.
Tro ar fyd
(Wrth weld hen chwarel lechi yn cael ei haddasu'n faes chwarae i estron anturiaethwyr na wyddent ddim am galedi’r dyddiau gynt)
Bob bore, dan wawd y domen lechi,
daw'r gwenoliaid yn fflyd,
ymysg sarhad o gwmni i grombil yr agor,
i wrando ar sŵn dripian y dwr
yn torri ar fudandod y gwacter.
Anturwyr ffug yng nghragen yr agor,
a'u dileit mewn creiriau rhydlyd;
- hen ebill heb dyllu ers tro
a chorryn o gadwyn yn pendilio
yr amser uwchben,
lle bu'n ddolen i greigiwr unwaith,
heddiw'n ddwylath o ddim.
I'r rhai hyn y mae'r twll yn we
i ymnadreddu drwyddo,
i'w tywys drwy wythiennau tanddaearol fy hepil,
a thros artaith y byrwyntog gynt.
Heb orfod ymbaratoi
y bara llwyd o gynhaliaeth
dan gannwyll geiniog,
na phrofi chwerwder y smit,
maent yma'n paderu am yr hyn
nad yw ond eco iddynt.
Rhyw gogio porthi'r dyrfa
â phregeth am gwymp a chwalfa,
gan besgi ar dosturi'r plwy',
ac ar wely angau 'nghymdogaeth,
heb sylwi ar y gwlith yn hen lygad y graig,
a llygad hen chwarelwr.