Un arall yn y gyfres 'cerddi hwyliog'
Annwyl Syr,
Rwyf yn anfon rhyw bwt o apêl
Am gymorth o'r Sosial ar frys, doed a ddêl.
A fedrwch fy helpu, os gwelwch yn dda;
Mae'r teli 'di torri a'r chwain yma'n bla.
Rhyw ddrafft sy'n fy fferu, a tharo mae'r mwg
Sy'n dod lawr y simne' - mae hynny'n beth drwg
I mi, sy'n diodde' o anhwylder y frest -
(Roedd hi'n oer amser rhyfel yn y trenshys, heb vest.)
Dwi'n diodde' afiechyd ers amser go faith,
A hyn sy'n fy rhwystro rhag chwilio am waith;
Rhyw gymysgedd sydd arnai, o'r beil a'r frech wen,
Y gowt, beri-beri a chur yn y pen.
Mae'r pwysedd yn isel, a'r tymheredd yn dwym,
'Rwyf ar dablets Cascara, wedi bod yn un rhwym;
Nawr dwi'n aros yn y gwely tan bedwar bob dydd -
Mae wiw imi symud a'r bowels mor rhydd.
Mae'r wraig acw'n feichiog am y degfed tro,
Mae 'na damp yn y walia' a thylla'n y tô;
Mae'r car angen teiars, a weipars, a'r dreth,
M.O.T. ac insiwrans, ecsôst a phob peth.
Peips bathrwm sy'n gollwng a'r dŵr ym mhob man,
Heblaw am y blocej a'r crac yn y pan;
Mae'r ogla'n ofnadwy - dwi'n teimlo'n reit sâl,
A fydd 'na ddim gwella os na chaf i dâl.
Mae 'ma gannoedd o lygod, rhai bach a rhai mawr,
Yn wir, mae nhw yma'n gwmpeini'i mi nawr,
Yn chwilio am friwsion yng nghanol y baw -
Nid hawdd iddynt hwythau gadw'r newyn 'na draw;
A waeth heb â'u hysio, na chnocio ar y bwrdd,
Mae'r creaduriaid rhy wantan i redeg i ffwrdd.
Byddai Topsi, 'rhen gath wedi'i difa nhw'i gyd,
Ond mi bwytais hi 'Dolig, (mi 'na'th hi ddau bryd).
Rwyf mewn dyled ofnadwy i siopau drwy'r wlad
Am nwydda' a brynais ar 'tic', neno'r tad,
Roedd y plant angen dillad a sgidia am eu traed,
'Does dim modd i mi dalu, os na chymra nhw 'ngwaed.
Mae'n job magu'r plantos a finna'r y dôl,
Wedi'r Cownsil 'na grefu i mi cymryd nhw'n ôl;
A thrwy ddamwain y llosgwyd yr hostel, yn wir,
A'r stesion, y llyfrgell a Swyddfa'r Sir.
Doedd Kylie, Llewelyn, Camellia na Wil,
Sydd yn blant reit ddireidus, dymunol a swil,
Ddim yn agos i'r tana' yng nghanol y dre,
A hwythau yn Borstal, filltiroedd o'r lle.
(Fe'i cafwyd yn euog fis Ionawr am ddwyn
Sigarets o archfarchnad yn ymyl Rhyd'mwyn.)
Rhyw chwant mawr am gyfoeth benderfynodd eu ffawd
Mewn oes mor faterol, a'u tad nhw mor dlawd.
Y bwm-beili sy'n aros tu allan, a'i fys
Ar y gloch yn fy ngalw i dderbyn yr wŷs.
Sut mae disgwyl i fethdalwr allu dilyn y drefn,
A dim gennyf gynnig ond y crys ar fy nghefn?
'Dwi ddim un am gwyno, ond a wnewch fy moddhau
Drwy anfon y Giro cyn bore dydd Iau?
Rwy'n siwr y rhowch sylw go iawn i f'apêl -
Bydd rhy hwyr wythnos nesa', a finna'n y jêl.
Rwyn gorffen fy llythyr, cyn chwythu fy ffiws,
Yr eiddoch yn gywir,
D.Ogwr Huws.