15.12.25

Cerddi Cydwybod- Nadolig?

Sut fath o gyfnod fydd yr ŵyl
I chwi, y 'duwiolfrydig';
A fydd eich byd yn llawn o hwyl
Wrth ddathlu y Nadolig?

A roddwch chithau newydd wedd
I ystyr 'bendigedig',
Uwchben ddanteithion flasus wledd 
Wrth ddathlu y Nadolig?

Mewn byd materol, tybed wnewch
Ystyried mor ychydig
Yw'r hyn a ro'wch, a'r hyn a gewch
Wrth ddathlu y Nadolig?

Onid yw'n wir sefyllfa drist,
Gofynnaf yn garedig,
A glywsoch sôn am Iesu Grist
Wrth ddathlu y Nadolig?

A wnewch chi gofio, oll i gyd,
Y geiriau cysegredig
Am eni Un a ddaeth i'r byd,
Wrth ddathlu eich Nadolig?


Er i'r Nadolig fod yn ẃyl arbennig i mi, ac i'r teulu dros y blynyddoedd, mae newid wedi bod yn y drefn ers colli fy mhriod gariadus, Beryl. Ni fydd y 'Dolig byth yr un fath eto heb ei phresenoldeb hi. Cadair wag yn dweud y cwbl....

12.12.25

Cerddi'r Chwarel -Llwch y Chwarel

Daeth diwedd y chwarel
Heb lawer o stŵr,
Mae’r felin yn dawel
A’r lefel dan ddŵr;
Yn dyst am ei beiau
Mae’r rwbel i gyd,
A pheswch ei gweithwyr 
A glywir o hyd.

Rhyw estron di-reswm
Fu perchennog y gwaith,
Hab barch at chwarelwr
Na chyd-ddyn ychwaith.
Nid oedd iechyd mor bwysig 
Ag angen y wlad –
Roedd pris uchel ar lechi
a bywydau yn rhad.

Am delerau anghyfiawn
Ac am gyflog mor wael
Rho’dd y cloddiwr ei lafur
I’r cwmni yn hael.
Aeth yn hen cyn ei amser
Dan bwysau y gwaith,
A’i gefn wedi camu
O’r llethu a’r llaith.

E’i gam yn arafach
A’i ysgyfaint yn drwch
O bowdr y llechi,
O effaith y llwch.
Aeth anadliad yn anodd,
Ei nerth yn gwanhau,
Beth yw’r ots gan y meistri – 
Mae’r chwarel ar gau

Bu’n diodde’ blynyddoedd
O ganlyniad y clwyf,
‘Nawr mae’n gorwedd dan garreg
Ym mynwent y plwyf,
A llechen yn gofeb
I gerflunydd y graig
A’r stad eto’n gwrthod 
Rhoi iawndal i’w wraig.

Ni ddyliwn anghofio
Annhegwch y byd,
Mae effaith y chwarel
O’n cwmpas o hyd.

- - - - - 

Cerdd a gyfansoddais ar gais rhai o rai o chwarelwyr yr ardal yn ystod streic 1985-86. 

Roedd ymgyrch cenedlaethol ar y pryd i geisio cael cyfiawnder ac iawndal i gyn-chwarelwyr oedd y dioddef o afiechydon yn ymwneud a thrin llechi.

Mae'r llinellau cyntaf i'w gweld ar y llechfeini ynghanol tref Blaenau Ffestiniog.

Ac mae'r gerdd ar gael yn y llyfryn 'Safwn Gyda'n Gilydd' 1986

5.12.25

Cerddi'r Chwarel - Adfeilion (chwarel Rhiwbach)

Fe welwn yr hagrwch
O'r chwalfa yn graith
Ar fwy na'r llygaid
Wedi darfod y gwaith,
Pan gwympodd y muriau i gyd, fesul un
I oferedd yfory’n bentyrrau di-lun.

A thybiwn im glywed
Dros chwibanu'r gwynt
Sŵn taro cynion
Yr hen hogia' gynt,
O weddillion y felin, a fu dawel gyhyd
Yn olion y cof, fel 'sgerbydau mud.

Ond wedi dryllio
Fy nychymyg brau,
Fe wyddwn innau
I'r seiliau wanhau,
A throais drachefn i gyfeiriad y Cwm,
Gan adael ar ôl yr adfeilion llwm.

Chwarel Rhiwbach ar y chwith, a Blaen Cwm. llun wedi'i dynnu o ffordd haearn Rhiwbach, gan Paul, y mab