Cerdd i ‘Nhad, William Hugh Williams 1890-1941
Nid oedd ond meidrolyn;
ond i mi yn arwr i'w addoli,
yn eilun o Farcsydd y bonc,
hen rebal o rybelwr
a adawodd ei farc ar blant ei yfory.
Â'i gŷn, yn ei gwman,
wedi oes o wthio a phlygu,
nid i swyddog,
ond i straen y fargen ddima;
yn farnwr diwyro
na ildiai air i'r stiward a'i gachwrs gynffonwyr,
a phob wagan-gynta'r-ryn.
Mae rheiliau rhydlyd ar lethrau Rhiw Bach,
lle bu dada’n un o bererinion y graig,
fel petaent yn wylofain y dadfeiliad,
yn atgof o’r fintai foreuol
o’r werin wargam ar glip yr inclên;
cam wrth gam o besychu
adlais llwch y gwaith
ar benglog o graig.
Prin yw'r cof amdano, a'r llun yn brinnach;
y darlun hwn, o lwch oesoedd,
lle mae'r dwylo'n datgelu'r cyfan
o artaith ei deithi;
digofaint wedi lapio'n dynn
yn y byd brwnt oedd yn bod.
Y dwylo crog na blethwyd mewn gweddi
fyth wedyn,
drannoeth ei brofedigaeth,
ac yntau heb dduw na'i hatebodd.
Wyneb di-wên fel petai'n mesur
pob modfedd o annhegwch
y lladrad a ddwynodd Rhys bach i fedd.
Rhychau’r talcen yn achwyn o’r cyni,
a’r sgerbydau gweigion fu’n rhythu’r niwl
o anwybodaeth am anhegwch,
ac am gwestiynnau ddi-ateb,
pan daenwyd tawelwch fel carthen wlân
ar wely angau’r felin.
Gwelaf osgo’r crefftwr yn ei bileri o freichiau,
a llymder ei wyneb yn arllwys dicter un
â chysgod tlodi’n fythol gwmpeini iddo,
a llidiardau gobaith i gyd ar gau.
O reddf, yn hen athronydd
a’i angerdd am iawnderau’n ingol,
heb unwaith ganlyn unffurfiaeth y dorf
i fegio o goffrau plwy’,
nac ymbesgi ar frasder cnawd afiach.
I mi, roedd rhin yr arwr
a rhuddin ein hil ynddo,
er hir loes ei gaethiwed
ar erwau ein hangen ninnau,
a thyndra’r gadwyn angen.
'Dada' ydoedd i ni, y nythaid wyth cyw,
y platŵn o ufudd-dod
na feiddiai yngan air i'w groesi
wrth barêdio yn rheng at fwrdd
caban o gegin,
heb gŵyn am lwydni'r fwydlen
wedi taw y corn gwaith.
Heddiw, nid yw ond sgriffiad ar gofeb
o lechen lâs,
megis cip ar feini y gorffennol.
'Dada' ydoedd, a 'Dada' fydd,
a'i stamp wedi sticio arna'i,
... y rebal anorffenedig.