18.1.26

Ar Gerdyn Post

Annwyl Mam,

Dim ond gair bach reit sydyn -

Wedi cyrraedd yn iawn';
Torheulo bob bore
A chysgu'r prynhawn.

Er yr haul, mae'r hen blantos
Â'u hwynebau yn llwyd -
Methu'n lân â dygymod
Â'r sothach o fwyd.

Heblaw am y twrw
A'r stumog, a'r beil
Mae'r teulu a minnau'n 
Cael amser gwerth chweil,
Ond oherwydd y sunstrôc 
A'r poen yn y bol
Ni ddown ni byth eto
I'r Costa Del Sol.

Cofion, ar frys, 
Gwen.

16.1.26

Gêm o Ddau Hanner (Stori bron yn wir!)

Hanner Cynta'

Yn ystod Gorffennaf mil naw chwedeg pedwar
Cystadleuodd y Llan 'cw mewn gornest 'gyfeillgar'
Yn erbyn rhyw dîm o ochra' Manceinion
Ar faes wedi'i farcio ar gae rwdins Cors Wnion.

Dechreuodd y Saeson yn eu togs continental,
A ninnau, feidrolion, yng nghrysau'r siop gornal;
'Roedd ganddyn' nhw dalent, yn wir, chwara' teg, 
Gyda'u seren ddisgleiriaf yn Smith, eu rhif deg.

Fe gawsom ni wersi mewn chwara' pêl droed,
A hwythau'n llawn hyder yn pwyso'n ddi-oed;
Tra bo ni, yr hen wariars, fel ein teidia' gynt
Yn ceisio dygymod, yn cicio'r gwynt.

Roedd ymgais yr hogia' i rwystro'r pum gôl
Yn union fel ceisio troi'r llanw yn ôl
Ac erbyn hâff-teim, roedd yn edrych yn ddu 
Ar obeithion y Cymry yn erbyn y llu.
-------------------------------

Yr Ail hanner

Dros baned a ffag, fe gawsom bep-tôc, 
Rhag i'r Saeson ffroenuchel ein gwneud ni yn jôc;
Wil Huws, ein rheolwr, un brathiog ei eiria'
Â'n diawliodd, gan ddeud bod rhaid newid tactega'.

Cafwyd cynllun gan Wil ar sut i adfer y sgôr
-Nad oedd dim byd i'w wneud â ffôr-tŵ-ffôr,
Ond cynllun hen-ffasiwn, effeithiol dros ben
Ar sut i fygu talentau eu nymbar ten.

Wil Stalwyn, mawr, solet, ein cefnwr de
A gafodd yr arwydd i roi'r boi yn ei le;
A phan ddaeth y cyfle, fe gyflawnodd y gwaith
Heb fath o ymdeimlad, na chydwybod ychwaith.

'Doedd yno 'r'un cam'ra nac action replay
I ddangos i'r dyfarnwr be' aeth o'i le;
Dim ond eiliad a gymrodd y digwyddiad chwim
A loriodd y seren, a chododd o ddim.

I'r tîm o Fanceinion aeth pethau yn waeth
Wedi colli'r prif sgoriwr, a hwnnw yn gaeth 
Ar y fainc ar ei orwedd, wedi'r dacl unfair
(Ni allai o sefyll heb iws ei ddwy ffêr.)

Aeth y system ail-hanner yn ei blaen yn ddifai,
 niferoedd y tîm arall yn mynd yn llai;
Fe sgoriwyd saith gôl gan flaenwyr y LLan,
Wrth i'r gelyn cwympedig fynd 'lawr ym mhob man;

Dim rhyfedd ein bod ni yn griw ofergoelus,
Yn ein seithfed nef, yn bobol mor ffodus;
Mae saith yn rhif lwcus, i bawb ond i Saeson,
Fel y saith oedd yn glwyfus o'r tîm o Fanceinion.

Trwy chwarae yn galed a rhyfedd wyrth,
Fel yn hanes 'r'hen Samson, fe chwalwyd y pyrth,
A threchwyd y gelyn, a chafwyd cyfiawnder
Mewn gornest gofiadwy - y gêm o ddau hanner.

14.1.26

Iechyd a Diogelwch

Rhyw fwthyn diaddurn oedd nghartre' bach clyd,
Heb foethusrwydd o gwbl, na steil, na dim byd;
Codi dŵr glân, iachusol, o ffynnon fach hardd, 
Gyda chloset, (un â bwced), yng ngwaelod yr ardd.
Dim math o garthffosiaeth, na dim i'w ymdrin
Na phapur sidanaidd i sychu 'r'un tîn.

Bum yn byw yn gyfforddus, er braidd yn ddi-lun
Yn fy mwthyn hen-ffasiwn, ar ben fy hun.
Cefais lonydd i drigo, heb letrig na ffôn,
Ymhell o'r oes fodern (a'i boen, 'n'ôl y sôn),
Hyd nes styrbio fy heddwch - ni fedrwn ei 'sgoi,
Gan rhyw ddyn biwroctaidd, hen 'sglyfath o foi.

"Mae'n ddrwg gen i'ch 'styrbio fel hyn", meddai'r gŵr
"Dwi'n 'dod wythnos nesa' i destio eich dŵr".
(A bod yn reit onest, doeddwn i ddim yn dallt,
Fod 'na rywbeth yn rong, heblaw 'fod o'n hallt.)
"Y dwr yn eich ffynnon, dwi'n feddwl, siwr iawn,
Mi ddo'i ar ôl cinio, rhyw dro yn y p'nawn."

Roedd o'n ymddwyn fel Napoleon, yn wir, ar fy llw,
Gyda'i bwyslais ar doilet, a'i Water-loo.
"Ac mae'n erbyn y gyfraith i neb droi ei glôs
Mewn cwt nad yw'n fflyshio, a hynny'n y nos. 
Nid yw'r daith 'na i waelod yr ardd at eich lles,
A byddai pan wrth y drws 'ma yn llawer iawn nes." 


 

"A daeth cwyn gan rhyw Saeson eich bod yn ddyn ffôl
Ac yn iwsio'r Observer i sychu'ch pen ôl;
A mae hynny yn wrthyn, ac yn groes i ddeddf gwlad,
Ond cewch iwsio Y Cymro, heb gosb, neno'r tad.
Tydi hynny ddim yn torri deddf hiliaeth G.B.,
A dim ots am ypsetio rhai croendena' fel chi"?

"Y fi yw'r awdurdod, welwch chi",meddai'r ffŵl,
"A deddf yw gorchymyn, a rheol 'di rŵl;
Mae eich iechyd yn bwysig, mae'n deud yn fan hyn
Na chewch fynd yn sâl, mewn du a gwyn.
Mae rhaid ichi newid eich ffordd gyntefig o fyw,
I gael dod yn rhan normal o ddynolryw."

Bu raid imi wario rhai cannoedd, yn wir,
I gyd-fynd â holl ddeddfau Helth & Seffti y sir.
Mae'r lle chwech hynafol fu unwaith mewn bri, 
Fel geudy i'r teulu, a lle i bi-pi
Yn adfail, ers i minnau orfod dilyn y drefn,
A chael tap dwr a thoilet tu mewn i'r drws cefn.

Dwi wedi cael digon, fel pawb arall, mae'n siwr
O reola' am fwydydd, ac am ansawdd y dŵr;
Am wahardd chwarae concyrs, fel y dyddiau gynt;
Am sledio mewn eira, ac am ollwng gwynt.
Rhaid cael ffens rownd yr oriel mewn capel yn awr,
I atal hen gojars rhag disgyn i'r llawr.

Oes gennych chi drwydded i anadlu yr aer
Sy'n mynd drwy eich ffroenau, gofynnaf yn daer?
Mi fydd angen cael leisans i fyw, neno'r tad;
A chewch chi ddim marw heb gael caniatâd;
A'r dyn Helth and Seffti, nad oes ganddo ddim parch,
Fydd yn dweud yn derfynnol os y cewch fynd i'r arch.
- - - -

(Llun Carey Jones, Chwarel Bwlch)

 

9.1.26

'Dathlu Calan 2000', neu'r Milenium Byg

Cyflwynaf y gyfres hon o gerddi hwyliog fel rhywbeth i godi calon. Mae hon wedi'i chyfansoddi ar droad y ganrif.

Tra roedd pawb yn y wlad 'ma, â'u holl gybôl
Yn croesawu Ddydd Calan, rhai blynyddoedd  yn ôl,
Roeddwn i yn y selar efo'r teulu i gyd
Yn aros yn ofnus am ddiwedd y byd.
Roedd gennym ni ddigon o fwyd yn y lle
I borthi pob Cymro o'r gogledd i'r de,
I'n cadw ni'n fodlon am flwyddyn neu ddwy,
Ac emergency rations am lawer iawn mwy.

'Dach chi'n gweld, cefais gyngor gan gyfaill ryw dro
Am ddydd Armagedon oedd yn dod, medda' fo;
Yn ôl Nostradamus Methusala Smith,
Dim ond y rhai parod fyddai yma am byth.
Mewn sgwrs yn y dafarn, yng nghornel y snug,
Cyfeiriodd 'rhen gyfaill at y mileniwm byg,
Ac fel yr oedd peryg' i bawb sydd yn fyw,
Ac am effaith y chwilen ar holl ddynolryw.

Rhagwelai ddinistrio'r dinasoedd mawr
Yn chwilfriw, â'u gadael fel lludw, i'r llawr;
Proffwydai alanas dros wledydd di-ri',
Heb fath o achubiaeth, ond i deulu fel ni.
Tra roedd gweddill dynoliaeth i gyd yn mwynhau
Gweld dyfodiad y milflwydd yn brysur nesáu,
Roeddem ni dan y ddaear, fel tyrchod mewn tail,
Yn aros am y diwedd hyd Ionawr yr ail.

Ddigwyddodd 'na affliw o ddim, medda' nhw, 
Heblaw am ryw straen anghyffredin o flu;
A ninnau'n y selar, yng nghanol y chwain
Heb glywed 'r'un nodyn o Auld Lang Syne.
Mi gollais i noson arbennig, 'nôl rhai,
A phawb wedi 'joio'r dathliadau'n ddi-fai.
Ond fe ddysgais un wers, un sicr, mai myth
Oedd gair Nostradamus Methusala Smith.

Os y gwyddoch am rywun sydd eisiau, ar frys, 
Dwy dunnell o datws a phum cant tun pys, 
Siwgwr a menyn a chaws n'ôl berfâd, -
A llwythi o nwyddau fel hyn, ddigon rhad, 
Anfonwch air ataf, neu os caf fod mor hy'
Dewch draw gyda'ch cynnig, fe 'nabodwch y ty -
Yr un efo selar ym mhen ucha'r stryd,-
A hynny ar fyrder, cyn diwedd y byd.