7.3.25

Trin Cerrig

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o ddarnau ar gerrig nodedig lleol, yn seiliedig ar sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (tymor 2022-23) ac erthygl a ymddangosodd wedyn yn Rhamant Bro, cylchgrawn flynyddol y gymdeithas, yr unig un o'i bath yn y Gymraeg.

Mae enwau lleol wedi eu gosod ar bob agwedd, bron, o dirwedd ein cynefinoedd. Cawn enwau lleol ar lwybrau, caeau, ffyrdd, ffosydd a nentydd, coedwigoedd, bryniau, mynyddoedd ac ati, ac enwau’r mwyafrif wedi aros ers cyn cof. 

Ond cerrig sydd dan sylw yma: Cyfeirio at rai sydd i’w gweld yn y fro hon, ac mewn ardaloedd cyfagos ‘dwi am wneud yma. A dwi’n pwysleisio hyn – mae’n sicr bod pob un ohonoch yn gwybod am garreg, neu gerrig nad ydwi wedi cyfeirio atynt yma.

Ydi, mae’r ymadrodd ‘trin cerrig’ yn adnabyddus yn ardaloedd y chwareli. Ond roedd angen clamp o gŷn i hollti’r garreg hon ar lwybr Sarn Helen, rhwng Bryn Castell a Rhiw-bach !! 

 

Maen Hollt (SH443735)

Ond na, nid trafodaeth ar drin cerrig yn y chwareli yw’r canlynol, ond cyfle i ni gael golwg ar ambell garreg, neu gerrig diddorol o fewn y plwy’ hwn, ac ychydig y tu hwnt i’r ffiniau. Edrych ar ystyr enwau a roddwyd ar rai o’r cerrig, a cheisio dadansoddi’r rhesymau dros yr enwau unigryw hynny. 

Pwy fedyddiodd y cerrig gyda’r enwau gwreiddiol, a pha bryd oedd hynny, tybed? Mae ‘na stori ynghlwm â sawl carreg mewn safleoedd eraill ym mhob ardal bron, a’r chwedlau hynny wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd. Onid yw’n hanfodol ein bod ninnau’n trosglwyddo’r pytiau pwysig hyn o hanes ein cenedl i’n disgynyddion, a cheisio sicrhau i’n plant, a’u plant hwythau gario ‘mlaen â’r traddodiad?

Yn y llun nesa' mae’r Maen Trwsgl yn sefyll ar waelod rhan o’r Manod Mawr a elwir yn Glogwyn Candryll ger tyddyn Cae Canol Mawr. Enw ar rywbeth blêr – clumsy- ydi trwsgl, ac yn disgrifio’r garreg hon i’r dim. Mae’n debyg iddi gael ei styrbio, a’i chario lawr y mynydd gan rewlif yn ystod Oes yr Iâ, a’i gosod yn y fan hon hyd ddydd y farn. 

Maen Trwsgl (SH439721)

Fel pob carreg o’r fath, mae chwedleuon wedi gwreiddio, tyfu ac addasu o’i hamgylch dros y blynyddoedd. Un o’r rhai mwya’ adnabyddus ynglŷn â’r Maen Trwsgl yw’r un am y cawr o’r enw Trwsgl oedd yn trigo yn ardal. Roedd yn cerdded o amgylch y Manod Mawr un diwrnod pan deimlodd rhyw boen yn ei droed. Eisteddodd i lawr, a thynnu ei esgid, a darganfod y maen hwn ynddi. Gafaelodd yn y garreg enfawr a’i lluchio i lawr ochr y mynydd, a rowliodd y maen hyd at y safle y gwelir hi heddiw.  

Mae chwedl debyg i hon yn perthyn i gawr arall o gyffiniau Penmachno, a wnaeth union yr un fath i garreg yn ei esgid, a’i lluchio i lawr llethr nes iddi syrthio i’r afon Gonwy islaw Rhaeadr y Greiglwyd (Conwy Falls). Ac yno mae Maen y Graienyn yn gorwedd hyd heddiw.

Mae enw ambell garreg, neu gerrig yn ddigon hawdd i’w ddadansoddi, megis lliw, lleoliad, neu siâp y maen, neu graig. Ond yr hyn sy’n ddifyr yw ceisio mynd i’r afael â rhesymau’n hynafiaid fedyddio rhai cerrig gydag enwau sydd bellach yn anghofiedig. Gwyddom i’r hen dderwyddon ddyddiau gynt addoli eu duwiau ger ambell faen, neu gylch o gerrig yn sefyll yn gadarn, oedd yn rhan o olygfa ambell safle. Pa grefydd oedd y rhain yn ei ddilyn? 

Daeth diwedd ar addoli yn y ffurf honno wedi dyfodiad y Rhufeiniad, gydag ambell eithriad, ond mae’r meini a’r cylchoedd yn dal i sefyll mewn sawl man, fel prawf o’r ffaith fod crefydd, ac addoli duwiau gwahanol gan ein hynafiaid wedi bodoli mewn nifer o safleoedd yng ngogledd Cymru y dyddiau fu.

[Y tro nesa... Y Garreg Lwyd; Carreg y Frân, a mwy]

 

 

1.3.25

Giaffar

 

Cerdd a gyfansoddais am y diweddar Goronwy Owen Dafis, neu ‘Giaffar’ar lafar, a fu’n gydweithiwr a chyfaill arbennig i mi am nifer o flynyddoedd. Traddodais ambell sgwrs/darlith am ei gymeriad, a’r hwyl a gawsom yn ei gwmni, yn y gwaith ac am ei daith drwy’r byd ‘ma. Yn un poblogaidd iawn, ac yn llawn direidi. 

Torwyd y mowld pan gollwyd Giaffar ym Medi 1998. Ni welir neb tebyg iddo eto ar strydoedd y dre’ hon byth eto, gwaetha’r modd.     

 

 

        Giaffar

Goronwy Owain Dafis oedd
Y 'Giaffar'; enw roed ar goedd
Ar hen gymeriad difyr, llon,
A fu yn rhan o'r ardal hon.
Er nad yn selog ar y Sul,
Fe gadwai at y llwybr cul,
Â'i eirau doeth, a'i gadarn farn
Am bethau'r byd; yn Gymro' i'r carn.

Ei wên ddireidus roddodd stamp
Ar bopeth wnaeth, a dyna'i gamp;
Wrth ddweud rhyw berl, a chymryd drag
O'r stwmp o Rizla a'r baco shag,
Caed holl ffraethineb diawl o gês
A fyddai heddiw'n fyd o lês
I wlad mor lwyd; heb rai fel hwn,
Mae'n llawer tlotach lle, mi wn.

Rhyw sgwrs a hwyl, a thynnu coes
Oedd pleser Giaff ar hyd ei oes.
Ei ddywediada' doniol lu
Oedd ran o'r ieithwedd ddyddiau fu.
Heb un uchelgais yn y byd,
Ond i ddifyrru'i ffrindia'i gyd,
A mynd am beint, a'i gêm o 'Nap'
Yng nghwmni'r criw yn lownj y Tap

Ei ymadroddion ffraeth a phowld
Ddiflannodd, wedi torri'r mowld;
Ni chawn y straeon fesul llath,
Ac ni fydd Blaena' byth 'r'un fath.
Wrth gofio'n ôl, rhaid cyfri'r gost
O golli rhai fel G'ronwy Post.
Ac ni ddaw neb i gymryd lle

Rhen Giaff a'i fath ar lwybrau'r dre'.